P-05-1142 Cynllun Mynd Allan i Helpu Allan

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jamie Price, ar ôl casglu cyfanswm o 261 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:          

Ar ôl y cyfyngiadau symud cyntaf, gwariodd Llywodraeth y DU £500 miliwn ar y cynllun bwyta allan i helpu allan!

 

Y tro hwn, dylid canolbwyntio ar iechyd!

 

Gyda lefelau gweithgarwch corfforol wedi disgyn i lefelau nas gwelwyd erioed o’r blaen yn ystod y trydydd cyfnod hwn o gyfyngiadau symud a ffigurau iechyd meddwl yn saethu’n uwch nag a welwyd erioed o’r blaen, mae angen inni flaenoriaethu iechyd ar ôl y cyfnod clo!

 

Byddai cynllun mynd allan i helpu allan ar gael i unrhyw un a fyddai am fynd i’r gampfa, pwll nofio neu gyfleusterau hamdden gyda phas diwrnod, i ddosbarth ffitrwydd neu weithgaredd ffitrwydd yn yr awyr agored. Gallai dynnu 50% oddi ar gostau unigolyn, wedi’i gyfyngu i uchafswm o hyd at £10 yr un.

 

Byddai hyn yn gyfle i flaenoriaethu a gwella iechyd y genedl ar ôl y pandemig ac yn tynnu ychydig o’r pwysau oddi ar y GIG yn y dyfodol!

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·         Gorllewin Caerdydd

·         Canol De Cymru